Sponsors


Calon Lan

Return to Hymns and Arias Index

Nid wy'n gofyn bywyd moethus,
Aur y byd na'i belau man,
Gofyn'r wyf am galon hapus,
Calon onest,
Calon lan.

Calon lan yn llawn daioni,
Tecach yw na'r lili dlos,
Dim ond calon lan all ganu,
Canu'r dydd a chanu'r nos.

Pe dymunwn oled bydol,
Chwim adenydd iddo sydd,
Golud calon lan rinweddol,
Yn dwyn bythol elw fydd.

Calon lan yn llawn daioni,
Tecach yw na'r lili dlos,
Dim ond calon lan all ganu,
Canu'r dydd a chanu'r nos.

Hwyr a bore fy nymuniad
Esgyn ar adenydd can,
Ar i Dduw, er mwyn fy Ngheidwad,
Roddi imi galon lan.

Calon lan yn llawn daioni,
Tecach yw na'r lili dlos,
Dim ond calon lan all ganu,
Canu'r dydd a chanu'r nos.